![]() |
Rheiffordd gul ager hanesyddol yw Rheilffordd Talyllyn, wedi ei gosod ymhlith cefn gwlad hardd Canolbarth Cymru.Yn rhedeg o Dywyn i Abergynolwyn a Nant Gwernol, mae’r lein yn mynd heibio Rhaeadr hyfryd Dolgoch, ac mae llwybrau cerdded rhagorol trwy’r goedwig ger Nant Gwernol.
Pam na ddewch chi â’ch teulu i ymweld â ni am ddiwrnod i’w gofio? |
![]() |
Rheilffordd Talyllyn
Beth Sy’n Digwydd?
Amserlen Digwyddiadau Arbennig
Teithio neu beidio, ymwelwch â Porter’s Platter, bwyty wedi ei ailwampio yn ddiweddar, sydd ar agor bob dydd tra bod trenau yn rhedeg.
Ydych chi, neu rywun ’dych chi’n ’nabod, eisiau gyrru trên stêm? Rhowch gynnig ar ein Profiadau Llawr Caban poblogaidd a gwireddu’ch breuddwydion. Anrheg delfrydol i rywun, neu i difetha’ch hun.
Darganfyddwch fwy am ein Trêts Penblwydd arbennig sydd ar gael i blant neu oedolion. Llogwch eich trên eich hun ar gyfer yr achlysur arbennig yna.
Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion.
Pam na rowch i rywun docyn Great Little Trains of Wales Discount Card eleni. Mae hwn yn werth 20 y cant o’r pris tocyn llawn ar holl reilffyrdd GLTW ac mae’n para am flwyddyn o’r tro cyntaf ei ddefnyddio.
Gwelwch ein holl anrhegion yn y siop.





